Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
7 Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4911
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 6 ac 8 -11 cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 2 – 4, 6, 7 a 9 – 13. Tynnwyd cwestiynau 1 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau storm Emma ar Gaergybi?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (i’w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon):
Lee Waters (Llanelli): Pa asesiad y mae Gweinidog wedi'i wneud o effaith rhoi'r gorau i ddarlledu rygbi rhanbarthol am ddim o’r tymor nesaf ymlaen?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Gweinidog ddatganiad am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi?
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gwnaeth David Melding (Canol De Cymru) ddatganiad ar ddathlu canmlwyddiant St John Cymru.
Gwnaeth Jane Hutt (Bro Morgannwg) ddatganiad ar Val Feld a datganoli, yn dilyn y digwyddiad plac porffor ddoe ac yn sgil dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos hon.
Gwnaeth Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) ddatganiad ar dathlu'r digwyddiad LeadHership llwyddiannus iawn a drefnwyd gan Chwarae Teg yr wythnos diwethaf i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Dechreuodd yr eitem am 15.35
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6665
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
4 |
8 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.09
NDM6677 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru’ a gasglodd 6,398 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM6680 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2018.
2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r adroddiad, sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.42
Dechreuodd yr eitem am 18.43
NDM6679 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cartrefi diogel - teuluoedd sefydlog
Pam mae angen diddymu adran 21 i roi mwy o sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.05
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2018